Newyddion Heddlu Gwent

13 Awst 2026

"Ein Anthony ni oedd e" - teyrnged teulu i dad, gŵr a 'Grumpy' annwyl iawn

“He was our Anthony” – family tribute to much-loved father, husband and ‘Grumpy’

Mae teulu dyn o Aberhonddu wedi talu teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel rhywun a fydd yn 'cael ei garu a’i golli y tu hwnt i eiriau'.

Bu farw Anthony 'Tony' Jones yn yr ysbyty o ganlyniad i anafiadau yn ystod digwyddiad o anhrefn treisgar ym Mhontnewynydd, ger Pont-y-pŵl; mae ei deulu'n parhau i dderbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.

Rydyn ni wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth.

Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud:

"Yn fwy na dim, roedd Anthony yn ŵr a thad annwyl a ffyddlon.

"I ni, 'doedd e ddim yn enw mewn stori newyddion - ein Anthony ni oedd e, ac mae'r bwlch mae wedi ei adael yn ein teulu yn amhosibl i'w ddisgrifio.

"Roedd yn gweithio'n eithriadol o galed a bob amser yn gwneud yn siŵr bod gan ei deulu ddigon o bopeth.

"Roedd Sarah a'r plant wrth galon ei fyd, ac roedd yn dwlu arnyn nhw.

"Roedd yn falch iawn o'i blant ac yn eu caru nhw yn fwy na dim.

"Roedd Anthony yn dad-cu annwyl iawn hefyd, ac roedd ei wyrion yn cyfeirio ato gyda'r enw cariadus 'Grumpy'.

"Roedd yn addoli ei wyrion ac yn ofnadwy o falch ohonyn nhw.

"Roedd bod yn 'Grumpy' iddyn nhw yn rhan arall o'r bywyd teuluol yr oedd yn ei garu cymaint.

"Roedd bob amser yn barod i chwerthin a 'doedd dim yn well ganddo na threulio amser gyda'i deulu.

"Mae gennym ni gymaint o atgofion melys o ddiwrnodau allan gyda'n gilydd, ond yr atgofion mwyaf gwerthfawr yw'r rhai mwyaf syml - adref, yn chwerthin a dawnsio wrth wrando ar gerddoriaeth yn ystod un o sawl disgo yn y gegin.

"Mae ein bywydau wedi newid am byth. Mae Sarah wedi colli ei gŵr a'r plant wedi colli eu tad, ac maen nhw'n ceisio deall dyfodol na wnaethon nhw fyth ddychmygu gorfod ei wynebu.

"Rydyn ni'n deall y bydd diddordeb gan bobl yn amgylchiadau marwolaeth Anthony ond gofynnwn i bobl gofio - y tu ôl i bopeth sy'n cael ei ysgrifennu a'i ddweud, mae teulu sy'n galaru.

"Beth bynnag arall sy'n cael ei ddweud, 'does dim byd yn newid y gŵr, tad a Grumpy yr oedd Anthony i'w deulu na pha mor annwyl oedd e iddyn nhw.

"Gofynnwn yn barchus i bobl adael i Sarah, y plant a theulu ehangach Anthony gael y preifatrwydd a'r tosturi sydd ei angen arnyn nhw i alaru.

"Bydd Anthony yn cael ei garu a'i golli y tu hwnt i eiriau.

"Byddwn yn cofio'r chwerthin, y diwrnodau allan gyda'r teulu, y disgos yn y gegin a'r holl atgofion roedden ni'n ddigon lwcus i'w gwneud gyda'n gilydd."

Meddai Ditectif Uwch-arolygydd Laura Bartley, yr uwch swyddog ymchwilio:

"I ddechrau, estynnwn ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau’r dioddefwr, sy’n parhau i dderbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.

“Mae ein hymchwiliad yn datblygu’n gyflym ac rydyn ni wedi arestio nifer o bobl.

“Mae ditectifs yn gweithio i ddeall yr amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad ddydd Iau, gan gynnwys gweithrediadau a symudiadau’r rhai a oedd yn ymwneud â’r digwyddiad cyn, yn ystod, ac ar ôl yr anhrefn."

"Ar y cam hwn yn ein hymchwiliad, rydyn ni’n credu bod yr anhrefn treisgar yn ymwneud ag aelodau dau Glwb Beic Modur gwaharddedig sydd mewn cystadleuaeth â’i gilydd, y Vikings a’r Hells Angels.

“Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddarganfod faint oedd gan aelodau’r clybiau hyn i wneud â’r digwyddiad.

"Rydyn ni’n deall y bydd y digwyddiad hwn yn achosi pryder sylweddol i’r gymuned.

"Gallwn gadarnhau yn awr bod Heol yr Ysbyty wedi ail agor ar ôl bod ar gau er mwyn i waith ymchwiliol gael ei wneud.

“Hoffwn sicrhau’r cyhoedd bod swyddogion a staff yn gweithio ddydd a nos i symud yr ymchwiliad yn ei flaen, canfod pawb a oedd ynghlwm â’r digwyddiad a dwyn y rhai cyfrifol gerbron y llysoedd.

 “Rydyn ni’n eithriadol o ddiolchgar am amynedd, cefnogaeth a chydweithrediad ein cymunedau wrth i’r gwaith hwn barhau.”

Gofynnwn yn daer ar unrhyw un â gwybodaeth i gyflwyno gwybodaeth trwy’r Porth Cyhoeddus Digwyddiadau Mawr neu i gysylltu â ni gan grybwyll rhif cofnod 2600255536.

Gallwch ffonio 101, mynd ar ein gwefan neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gallwch gysylltu â Crimestoppers hefyd, yn ddienw, drwy ffonio 0800 555 111 neu ar-lein.

Gwybodaeth Gyswllt

Heddlu Gwent Police
Press Office
Cyfathrebu Corfforaethol | Corporate Communications
(710) 3500 / 01633 647018
pressoffice@gwent.police.uk