24 Chw 2026
Dywedodd teulu Duane Keen: "Heddiw mae Kai Pennell wedi cael dedfryd oes o x [please use numeral rather than word] - mlynedd o garchar am ladd fy mab Duane. Tad, tad-cu, brawd ac ewythr cariadus.
"Er bod cyfiawnder wedi cael ei weinyddu, ni fydd y ddedfryd oes byth yn ddigon mewn gwirionedd, gan ein bod ni'r teulu wedi colli ein hanwylyd na fydd byth yn cael byw ei fywyd, a nawr mae’n rhaid i ni fyw gweddill ein bywydau hebddo ef.
"Hoffem ni fel teulu ddiolch i’r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r holl dîm sydd wedi gweithio’n ddiflino ar yr achos yma ac wedi rhoi cymorth i ni dros y misoedd diwethaf."
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Jitka Tomkova-Griffiths, yr uwch-swyddog ymchwilio: “Lladdwud Duane Keen gan Kai Pennell mewn ymosodiad treisgar a ddigwyddodd oherwydd bod Pennell yn genfigennus.
“Mae’r ffaith ei fod wedi cymryd cyllell o’i gartref ei hun yn awgrymu ei fod wedi bwriadu achosi niwed difrifol pan ddaeth wyneb yn wyneb â Duane yn ystod oriau mân y bore hwnnw. Arweiniodd ei weithredoedd at ganlyniadau dinistriol ac mae marwolaeth Duane wedi effeithio ar fywydau ei deulu, anwyliaid, ffrindiau a’r gymuned.
“Hoffwn dalu teyrnged i’r ffrindiau a theulu sydd wedi gorfod dod i dermau â marwolaeth Duane ac sydd wedi bod mor gryf trwy gydol y broses anodd yma.
“Rwy’n gwybod na fydd dedfryd heddiw byth yn dod ag ef yn ôl; ond rwy’n gobeithio y bydd y canlyniad yma’n rhoi rhywfaint o gysur iddyn nhw ac yn eu galluogi nhw i symud ymlaen yn eu bywydau.”
Heddlu Gwent Police
Press Office
Cyfathrebu Corfforaethol | Corporate Communications
(710) 3500 / 01633 647018
pressoffice@gwent.police.uk